Telephone: 01792 799575
  • About Us
  • Conditions of Carriage
  • Recruitment
  • Travel Updates
  • Complaints Procedure
South Wales Transport
  • Home
  • Bus Routes
    and Timetables
  • Coach
    Hire
  • Gower College
    Transport
  • News &
    Updates
  • Contact
    Us

Gweithdrefn Gwyno

Ein Hymrwymiad i Gwsmeriaid

Ein nod ni yw sicrhau:

  • Bod gwneud cwyn mor hawdd ag y bo modd
  • Ein bod ni’n cymryd pob cwyn o ddifri
  • Ein bod ni’n ymdrin â’ch cwyn chi yn brydlon ac yn gyfrinachol
  • Ein bod ni’n dysgu oddi wrth gwynion ac yn eu defnyddio i adolygu a gwella ein gwasanaeth

Beth yw cwyn?

Cwyn yw pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Gall fod am unrhyw beth a gallai gynnwys:

  • Pan nad ydym yn darparu gwasanaeth mewn da bryd
  • Pan fyddwn ni’n rhoi’r wybodaeth anghywir
  • Pan gewch chi wasanaeth o ansawdd gwael
  • Pan gewch chi broblem ag aelod o’r staff

Sut i wneud cwyn

Os hoffech chi wneud cwyn ffurfiol, cewch chi gysylltu â’r swyddfa trwy unrhyw un o’r ffyrdd a nodir isod.

Trwy’r e-bost ar ein gwefan

Yn ysgrifenedig at ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn
South Wales Transport (Neath) Ltd
Uned 2, Ferryboat Close
Parc Menter Abertawe
Abertawe
SA6 8QN

Dros y ffôn i 01792 799575

Yn bersonol yn ein swyddfeydd.

Ymchwilir i’ch cwyn yn llawn a rhoddir ymateb ymhen 10 niwrnod gwaith.

Os byddwch chi’n anhapus â’r ymateb, cewch chi ysgrifennu at y Rheolwr Gyfarwyddwr:

Mr D Fowles
Uned 2, Ferryboat Close
Parc Menter Abertawe
Abertawe
SA6 8QN

Os byddwch chi’n parhau’n anhapus

Os byddwch chi’n parhau’n anhapus â’n hymateb ni, mae croeso i chi gysylltu â Bus Users UK yn:

Bus Users Cymru
Swyddfeydd Leckwith
Ffordd Sloper
Caerdydd
CF11 8TB

Ffôn: 0300 111 0001
E-bost: [email protected]

Saesneg / English

 

SOUTH WALES TRANSPORT (NEATH) LTD
Unit 2, Ferryboat Close, Swansea Enterprise Park, Llansamlet, Swansea, SA6 8QN
  • Route One Awards Finalist 2014
  • Route One Awards Finalist 2016
  • ISO9001 Registered

Telephone: 01792 799575

Cookie & Privacy Policy     -     Terms & Conditions
    -     Website by NetBop